Mae ein Diwrnodau Rhagflas Addysg Uwch yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i wneud y canlynol: Cyfarfod eu darlithwyr arbenigol Gweld ein cyfleusterau anhygoel Dysgu rhagor am eu cwrs Addysg Uwch Cael blas o fod yn fyfyriwr addysg uwch yn Cambria Cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy’n berthnasol i’r pwnc Dysgu rhagor am lwybrau gyrfa Bydd y digwyddiadau hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad am Addysg Uwch ac am eich dyfodol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau yma. Mae’r digwyddiadau hyn am ddim, ac maent ar agor i fyfyrwyr 16 oed a hŷn. Amserlen Sesiwn Min Nos 5.00pm – 5.30pm – Cyrraedd a lluniaeth 5.30pm – 7.15pm – Dysgu cyd-destunol – taith drwy eich gradd. Profi darlith. 7.15pm – 7.45pm – Sgiliau Astudio 7.45pm – 8.15pm – Prifysgol Aberystwyth – Cyllid, DSA, proses ymgeisio 8.15pm – 8.30pm – Sesiwn holi ac ateb